Y Cylch Catholig

Cysylltwch a

Ron Keating rmkeating@hotmail.com

Pob un yn clywed yn ei iaith ei hun

g6vZRYGmgukGcDV348RdinCrKWY

Gair Bywyd -  Mis Mai 2022

 

Dw i'n rhoi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd. (Ioan 13:34).

Cafodd y geiriau hyn eu dweud yn ystod y Swper Olaf. Roedd Iesu wrth y bwrdd gyda’i ddisgyblion ac roedd newydd olchi eu traed. Ychydig oriau’n ddiweddarach byddai’n cael ei arestio, ei ddedfrydu i farwolaeth a’i groeshoelio. Pan fydd amser yn fyr a’r diwedd yn agosáu, caiff y pethau pwysicaf eu dweud a chaiff ‘testament’ yr unigolyn ei adael.

Nid yw Efengyl Ioan yn sôn am sefydlu’r Cymundeb yn ystod y Swper Olaf. Yn hytrach disgrifir golchi’r traed. Mae hyn yn taflu goleuni penodol ar ein dealltwriaeth o’r gorchymyn newydd. Mae Iesu yn gwneud rhywbeth yn gyntaf ac yna’n dysgu, ac am y rheswm hwn mae awdurdod yn ei eiriau.

Roedd y gorchymyn i garu eich cymydog eisoes yn bresennol yn yr Hen Destament: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun’ (Lefiticus 19:18). Mae Iesu’n tynnu sylw at agwedd newydd ar hyn, sef cydgyfnewid. Yn wir, cyd-gariad yw’r hyn sy’n creu’r gymuned Gristnogol ac yn gwneud iddi sefyll allan.

Dw i'n rhoi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd.

Mae gwreiddiau’r gorchymyn hwn i’w gweld yn y bywyd dwyfol, yn y ddynameg Drindodaidd y mae Mab Duw wedi galluogi i ddynion a menywod ei rhannu. Mae sylfaenydd Focolare, Chiara Lubich, yn dangos hyn gyda delwedd a allai helpu ein dealltwriaeth: ‘Pan ddaeth Iesu i’r ddaear, nid oedd yn dod o ddim byd, fel pob un ohonom ni, ond o’r nefoedd. Fel y mae mudwyr, sy’n mynd i wlad bell, yn addasu i’w hamgylchedd newydd, maen nhw hefyd yn dod â’u harferion eu hunain ac yn aml yn dal i siarad eu hiaith eu hunain. Mewn ffordd debyg, addasodd Iesu i fywyd ar y ddaear ond – am ei fod yn Dduw - daeth â bywyd y Drindod ar y ddaear gydag e a’r bywyd hwnnw yw cyd-gariad.’

  

Dw i'n rhoi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd.

Yma rydym ni’n dod at galon neges Iesu ac mae hyn yn mynd â ni’n ôl at newydd-deb bywyd fel y’i profwyd yn y cymunedau Cristnogol cyntaf ac a all fod yn hanfod o hyd yn ein holl grwpiau a chymdeithasau. Mewn amgylchedd lle mae cydgyfnewid yn realiti bywyd, rydym ni’n deall ystyr ein bodolaeth, yn dod o hyd i gryfder i fynd ymlaen mewn cyfnodau o boen a dioddefaint, cawn ein cefnogi drwy anawsterau anochel bywyd, ac rydym ni’n profi llawenydd.

 

Rydym ni’n wynebu cynifer o heriau’n ddyddiol: y pandemig, polareiddio, tlodi a gwrthdaro. Gadewch i ni ddychmygu am ennyd beth fyddai’n digwydd pe baem ni’n rhoi’r Gair Bywyd hwn ar waith yn ein bywydau bob dydd. Byddem ni’n gweld cyfleoedd newydd yn agor a byddai’r cynllun ar gyfer y ddynoliaeth yn datblygu o flaen ein llygaid, gan roi gobaith. Does dim byd yn ein hatal rhag ailddeffro’r Bywyd hwn ynom ni ein hunain ac ailgynnau o’n cwmpas berthnasoedd brawdoliaeth sy’n estyn trwy’r byd i gyd.

 

Dw i'n rhoi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd.

Gwirfoddolwr ifanc yw Marta sy’n helpu carcharorion sy’n astudio ar gyfer arholiadau prifysgol. ‘Y tro cyntaf i mi gamu i mewn i’r carchar, cwrddais i â phobl oedd ag ofnau a gwendidau. Ceisiais feithrin perthynas gyda nhw oedd yn gyntaf yn broffesiynol ond hefyd yn gyfeillgar, yn seiliedig ar barch a gwrando. Buan y sylweddolais nad helpu’r carcharorion yn unig yr oeddwn i ond eu bod nhw hefyd yn fy helpu i. Ar un adeg, pan oedd un o’r myfyrwyr yn paratoi at arholiad, bu farw rhywun yn fy nheulu a chadarnhawyd dedfryd y myfyriwr gan y llys apêl. Roedd y ddau ohonom mewn lle tywyll. Yn ystod y gwersi roeddwn i’n gallu gweld faint o boen oedd y tu mewn iddo ac yr oedd yn gallu ei rannu gyda mi.  Drwy oddef pwysau’r boen gyda’n gilydd roeddem ni’n gallu symud ymlaen. Pan oedd yr arholiad drosodd, daeth i ddiolch i fi, gan ddweud na allai fod wedi’i wneud heb fy nghymorth. Er bod un bywyd yn fy nheulu wedi dod i ben, roeddwn i’n teimlo fy mod wedi achub un arall. Sylweddolais fod cydgyfnewid yn ei gwneud yn bosibl i greu gwir berthynas o gyfeillgarwch a pharch.’

Letizia Magri