Cysylltwch a
Ron Keating [email protected]
Gweddi ar Sant Joseff
Ŵyl Sant Joseff
(i’w hadrodd yn ystod mis Hydref)
Atat ti, O fendigedig Joseff, y ffown yn ein trallod,
ac wedi erfyn cymorth dy sancteiddiaf briod
gofynnwn yn hyderus am dy eiriolaeth dithau.
Atolygwn iti, er mwyn y serch tyner a’th rwymodd wrth y Forwyn Ddifrycheulyd,
a’r cariad tadol y cofleidiaist ag ef y dyn bach Iesu,
edrych yn garedig ar yr etifeddiaeth a enillodd Iesu Grist â’i Werthfawr Waed,
a’n cynnal ni yn ein hanghenion â’th gymorth galluog.
Amddiffyn, ddyfalaf geidwad y Teulu Santaidd, bobl etholedig Iesu Grist.
Gwared ni, serchocaf Dad,
rhag pob rhyw haint o gam-gred a llygredigaeth.
O’th le yn y nef, ein nerthol amddiffynnydd,
bydd gyda ni’n drugarog yn ein rhyfel yn erbyn gallu’r tywyllwch;
ac fel yr achubaist y dyn bach Iesu oddi wrth enbydrwydd einioes,
felly’n awr gwared Eglwys Lân Duw oddi wrth faglau’r gelyn a phob cyfyngder.
Cadw bawb ohonom yn gyson dan dy nawdd,
fel y’n cynhalier gan dy esiampl a’th gymorth i fyw buchedd bur,
a marw’n santaidd,
a chael ein gwyn yn dragywydd yn y nef. Amen.1
Gweddïa drosom, sant Joseff,
am ein gwneud yn deilwng o addewidion Crist.
Gweddïwn
O hollalluog Dduw,
fel y rhoddaist y plentyn Iesu, Waredwr y byd,
i ofal y bendigaid Joseff,
dyro i’th Eglwys,
dan ei nawdd ef barhau’n ffyddlon i’r Efengyl ar air a gweithred,
hyd nes y cyflawnir hi yn Iesu Grist, dy fab, ein Harglwydd,
sydd gyda Thi yn undod yr Ysbryd Glân yn un Duw,
a’i frenhiniaeth yn parhau yn oes oesoedd. Amen.2