
Y Cylch Catholig
Cysylltwch a
Ron Keating rmkeating@hotmail.com
Pob un yn clywed yn ei iaith ei hun


Anthemau Mair - Prayers
ANTHEMAU MAIR
YR ANGELWS DOMINI
Drwy’r flwyddyn ac eithrio adeg y Pasg
V/ Daeth Angel â neges yr Arglwydd at Fair:
R/ ac ymddug hi o’r Ysbryd Glân
Henffych well, Fair,
V/ Wele lawforwyn yr Arglwydd:
R/ bydded imi yn ôl dy air
Henffych well, Fair,
V/ A daeth y Gair yn gnawd:
R/ a phreswyliodd yn ein plith
Henffych well, Fair,
V/ Gweddïa drosom, sanctaidd Fam Duw,
R/ am ein gwneud yn deilwng o addewidion Crist.
Gweddïwn:
Goleua’n calonnau, Arglwydd, â’th ras;
ac fel y cawsom wybod, drwy genadwri’r angel,
am ymgnawdoliad dy Fab,
tywys ni, yn rhinwedd ei ddioddefaint Ef a’i groes,
i mewn i ogoniant ei atgyfodiad.
Trwyddo Ef, sy’n byw ac yn teyrnasu yn oes oesoedd. Amen.
ALMA REDEMPTORIS MATER
Adfent – 2il Chwefror
Mam ein Prynwr, borth y nef a seren y môr,
cynorthwya ni yn ein gwendid.
Tydi, er syndod i’r hollfyd,
a esgorodd ar y Mab a’th wnaeth;
O Forwyn ddi-nam, derbyn ein cyfarchiad
a thosturia wrthym ni bechaduriaid.
AVE REGINA CAELORUM
2il Chwefror – Y Pasg
Henffych well, Frenhines nefoedd,
feistres yr angylaidd luoedd;
molwn di, o borth a ffynnon
y Goleuni a ddaeth i ddynion.
Llawenha, o forwyn euraid,
ddetholedig o greaduriaid;
ac ar Grist, o briodola’,
drosom ninnau dwys eiriola
REGINA CAELI
Adeg y Pasg
V/ Frenhines nefol, bydd lawen: Alelwia!
R/ Dy Faban bendigedig, d’anwylyd: Alelwia!
V/ Atgyfododd fel y dywedodd: Alelwia!
R/ Gweddïa drosom ar Dduw: Alelwia!
V/ Llawenhewch, O Forwyn Fair, Alelwia!
R/ Atgyfododd yr Arglwydd yn wir, Alelwia!
Gweddïwn:
O Dduw Dad,
yr wyt yn rhoi llawenydd i’r byd
drwy atgyfodiad dy Fab, ein Harglwydd Iesu Grist.
Drwy weddïau’r Forwyn Fair,
dyro inni lawenydd y bywyd tragwyddol.
Gofynnwn hyn drwy dy fab, ein Harglwydd Iesu Grist,
sy’n byw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân
yn un Duw yn oes oesoedd. Amen.
SALVE REGINE
Ar ôl y Sulgwyn
Henffych well, Frenhines, fam tosturi;
ein bywyd, ein melyster, a’n gobaith,
henffych well.
Arnat ti y llefwn, blant alltud Efa;
tuag atat yr ochneidiwn dan gwynfan ac wylo
yn hyn o ddyffryn dagrau.
Tithau, gan hynny, ein canllaw ni,
tro dy lygaid tosturiol tuag atom,
ac ar ôl ein halltudiaeth yma
dangos inni Iesu, fendigedig ffrwyth dy fru.
O drugarog, O addfwyn, O beraidd Forwyn Fair.
V/Gweddïa drosom, sanctaidd Fam Duw,
R/am ein gwneud yn deilwng o addewidion Crist.
SUB TUUM PRESIDIUM
Drwy’r flwyddyn
Dan dy nawdd di y ffown, O sanctaidd Fam Duw;
na ddiystyra’n gweddïau a ninnau mewn angen,
eithr gwared ni yn wastad rhag pob perygl,
O fendigaid Wyry Fair.
GWEDDI'R PERERIN
Y mae fy enaid yn mawrygu’r Arglwydd.
Oherwydd wele, o hyn allan,
fe'm gelwir yn wynfydedig gan yr holl genedlaethau.
Gwnaeth yr hwn sydd nerthol bethau mawr i mi
sanctaidd yw ei enw ef.
Dyma gaethferch yr Arglwydd
Bydded i mi yn ôl dy air di.
Gweddïwn.
Nefol Dad,
dy fab Iesu a aned o Fair Forwyn
drwy nerth yr Ysbryd yw goleuni'r Byd.
Bydded i'r un Ysbryd ein harwain i efelychu Mair
yn ei ffydd, ei chariad a'i gostyngeiddrwydd
er mwyn inni ddilyn goleuni ei Mab yn y bywyd hwn
a dyfod o'r diwedd i'th weld di wyneb yn wyneb,
a'th glodfori di yn nheyrnas dragwyddol nef.
AMEN.
Santaidd Fair, fam Duw,
yr wyt yn cynnig dy Fab inni i'w addoli.
Boed inni drysori ei air yn ein calonnau
a dwyn ei oleuni i’r byd.
Mair o Aberteifi gweddïa dros Gymru.
Mair o Aberteifi gweddïa drosom ni.
Y MEMORARE
Cofia, Fair, forwyn fwynaf,
na chlywyd erioed i neb ffoi i’th nawdd,
na cheisio dy eiriolaeth,
nac erfyn dy help,
a’i adael yn ddigymorth.
Minnau’n gyflawn o’r cyfryw hyder,
atat ti y ffof, Forwyn y morynion, fy Mam;
atat ti y deuaf
a sefyll ger dy fron yn bechadur wylofus.
Na ddiystyra fy ngeiriau, O Fam y Gair,
ond yn dy drugaredd,