Cysylltwch a
Ron Keating [email protected]
Arwydd y Groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân. Amen.
Gweddi'r Arglwydd:
Ein Tad, y sy yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw,
deled dy deyrnas,
bydded dy ewyllys,
ar y ddaear megis yn y nef.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol,
a maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth,
eithr gwared ni rhag drwg.Amen.
Henffych well:
Henffych well, Fair, gyflawn o ras,
y mae'r Arglwydd gyda thi.
Bendigedig wyt ti ymhlith merched,
a bendigedig yw ffrwyth dy groth di, Iesu.
Sanctaidd Fair, Fam Duw,
gweddïa drosom ni bechaduriaid,
yr awr hon ac yn awr ein hangau. Amen.
Credo’r Apostolion:
Credaf yn Nuw Dad hollalluog,
Creawdwr nef a daear.
Ac yn Iesu Grist ei unig Fab, ein Harglwydd,
a ymddygwyd o waith yr Ysbryd Glân,
a’i eni o Fair Forwyn;
dioddefodd dan Pontiws Pilat,
fe’i croeshoeliwyd, bu farw, a’i gladdu;
disgynnodd i uffern;
atgyfododd y trydydd dydd oddi wrth y meirw,
esgyn i’r nefoedd,
ac eistedd ar ddeheulaw Duw Dad hollalluog;
daw oddi yno i farnu’r byw a’r meirw.
Credaf yn yr Ysbryd Glân,
yr Eglwys Lân Gatholig,
cymun y Saint, maddeuant pechodau,
atgyfodiad y cnawd, a’r bywyd tragwyddol. Amen.
Yna ar LEINIAU’R EIN TAD’, dywedwch y geiriau canlynol:
Dad tragwyddol, offrymaf i ti Gorff a Gwaed, Enaid a Duwdod dy anwylaf Fab, ein Harglwydd Iesu Grist, fel iawn am ein pechodau a phechodau’r holl fyd.
Ar leiniau’r Henffych Well’ dywedwch y geiriau canlynol:
Er mwyn Ei ddioddefaint trallodus, trugarha wrthym ni ac wrth yr holl fyd.
Wrth derfynu dywedwch y geiriau hyn dair gwaith:
Sanctaidd Dduw, Sanctaidd a Nerthol, Sanctaidd ac Anfarwol, trugarha wrthym ni ac wrth yr holl fyd.
Am 3 o’r gloch y prynhawn dywedwch: “Trengaist, Iesu, ond ffrydiodd ffynhonnell bywyd allan er mwyn eneidiau ac ymagorodd eigion Trugaredd er mwyn yr holl fyd. O! Ffynnon Bywyd, Drugaredd Dwyfol difesur, amdoa’r holl fyd a gwacâ Dy hun arnom.”
“O! Waed a Dŵr a ffrydiodd allan o Galon yr Iesu yn Ffynnon Trugaredd er ein mwyn, ymddiriedaf ynot.”
Download & Print