Cysylltwch a
Ron Keating [email protected]
Detholiad o Antiffonau’r Adfent
Sul Cyntaf yr Adfent
Ad te levavi. Atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid; O fy Nuw, ynot ti yr wyf yn ymddiried; paid a dwyn cywilydd arnaf, paid a gadael i’m gelynion orfoleddu o’m hachos. Ni ddaw cywilydd i’r rhai sy’n gobeithio ynot ti. Salm 25: 1-3
Ail Sul yr Adfent
Populus Sion. Chwi bobl Seion, wele fe ddaw yr Arglwydd i achub y cenhedloedd; bydd yr Arglwydd yn peri clywed ei lais mawreddog, a bydd eich calon yn llawen. cf. Eseia 30: 19, 30
Trydydd Sul yr Adfent
Gaudete. Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe’i dywedaf eto, llawenhewch. Y mae’r Arglwydd yn agos. Philipiaid 4: 4, 5
Pedwerydd Sul yr Adfent
Rorate caeli. Defynnwch oddi fry, O nefoedd; tywallted yr wybren gyfiawnder. Agored y ddaear i egino Iachawdwr. Eseia 45: 8
Yr Antiffonau Mawr
17 Rhagfyr - O Sapientia. O Ddoethineb sy’n dyfod o enau’r Goruchaf ac yn estyn o un eithaf y ddaear i’r llall, gan osod popeth mewn trefn a llaw gref ac addfwyn: Tyrd a dysg inni lwybr barn gywir.
18 Rhagfyr - O Adonai, Tywysog ty Israel, a ymddangosaist i Foses mewn fflam dan yn y berth, a rhoi iddo’r Gyfraith ar Sinai: Tyrd a braich estynedig, i’n hachub.
19 Rhagfyr - O Radix Jesse. O Wreiddyn Jesse, sy’n sefyll megis baner o flaen y cenhedloedd, ac y mae brenhinoedd yn tewi ger dy fron a’r holl bobloedd yn canu dy fawl: Tyrd i’n rhyddhau, nac oeda.
20 Rhagfyr - O Clavis David. O Allwedd Dafydd, Teyrnwialen ty Israel, yr hyn a agori, nis caea neb, a’r hyn a gaei, nis egyr neb: Tyrd a dwg o’r carchar y rhai sy’n gorwedd mewn cadwynau a’r rhai sy’n trigo mewn tywyllwch a chysgod angau.
21 Rhagfyr - O Oriens. O Seren y Bore, Llewyrch y goleuni tragwyddol a haul cyfiawnder: Tyrd a thaena dy oleuni ar y rhai sy’n trigo mewn tywyllwch a chysgod angau.
22 Rhagfyr - O Rex gentium. O Frenin y cenhedloedd, yr Arglwydd yr hiraethant amdano, y conglfaen sy’n uno Iddew a Chenedl-ddyn: Tyrd ac achub ddynolryw, achub y gwyr a gwragedd a luniaist ti o’r pridd.
23 Rhagfyr - O Emmanuel. O Immanuel, ein Brenin a’n Deddfroddwr, y mae’r cenhedloedd yn disgwyl amdano, Gwaredwr yr holl bobloedd; Tyrd, Arglwydd ein Duw, ac achub ni.
Yr Alma Redemptoris Mater
Mam ein Prynwr, borth y nef a seren y mor,
cynorthwya ni yn ein gwendid.
tydi, er syndod i’r holl fyd,
a esgorodd ar y Mab a’th wnaeth;
O Forwyn ddi-nam, derbyn ein cyfarchiad
a thosturia wrthym ni bechaduriaid.
A. Angel yr Arglwydd a fynegodd i Fair.
P. A hi a ymddug o’r Ysbryd Glan.
Gweddiwn.
Tywallt, O Arglwydd, atolygwn arnat, dy ras i’n
heneidiau ni, fel y gallwn ni trwy gyfarchiad yr Angel
a gafodd wybod am Ymgnawdoliad dy Fab di, trwy ei
ddioddefaint a’I groes ef, gael ein hebrwng i ogoniant
ei atgyfodiad. Trwy Grist, ein Harglwydd. Amen.
A Selection of Advent Antiphons
Advent Antiphons
First Sunday in Advent
Ad te levavi. To you, my God, I lift my soul, I trust in you; let me never come to shame. Do not let my enemies laugh at me. No one who waits for you is ever put to shame. Psalm 24:1-3
Second Sunday in Advent
Populus Sion. People of Zion, the Lord will come to save all nations, and your hearts will exalt to hear his majestic voice. cf. Isaiah 30: 19, 30
Third Sunday in Advent
Gaudete. Rejoice in the Lord always; again I say, rejoice. The Lord is near.
Philippians 4: 4, 5
Fourth Sunday in Advent
Rorate caeli. Let the clouds rain down the Just One, and the earth bring forth a Saviour.
Isaiah 45: 8
The Great Antiphons
December 17 - O Sapientia. O Wisdom, you come forth from the mouth of the Most High. You fill the universe and hold all things together in a strong yet gentle manner. O come to teach us the way of truth.
December 18 - O Adonai, and leader of Israel, you appeared to Moses in a burning bush and you gave him the Law on Sinai. O come and save us with your mighty power.
December 19 - O Radix Jesse. O Stock of Jesse, you stand as a signal for the nations; kings fall silent before you whom the peoples acclaim. O come to deliver us, and do not delay.
December 20 - O Clavis David. O Key of David and Sceptre of Israel, what you open no one else can close again; what you close no one can open.
O come to lead the captive from prison; free those who sit in darkness and in the shadow of death.
December 21 - O Oriens. O Rising Sun, you are the Splendour of eternal light and the sun of justice. O come and enlighten those who sit in darkness and in the shadow of death.
December 22 - O Rex gentium. O King whom all the peoples desire, you are the cornerstone which makes all one. O come and save man whom you made from clay.
December 23 - O Emmanuel. O Immanuel, you are our King and Judge, the One whom the peoples await, and their Saviour. O come and save us Lord, our God.
Alma Redemptoris Mater
Kindly mother of the Redeemer, who art ever of heaven
The open gate, and the star of the sea, aid a fallen people,
Which is trying to rise again; thou who didst give birth,
While nature marvelled how, to the Holy Creator,
Virgin both before and after, from Gabriel’s mouth
Accepting the All hail, be merciful towards sinners.
( Tr. Blessed John Henry Newman )
V. The Angel of the Lord declared unto Mary.
R. And she conceived by the Holy Spirit.
Let us pray.
Pour forth we beseech thee, O Lord, thy grace into our
hearts that we, to whom the incarnation of Christ, thy Son, was made known by the message of an angel, may, by his
passion and cross, be brought to the glory of his res-urrection. Through the same Christ our Lord. Amen.