Croeso i'n Gwefan

OFFEREN YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 2025, WRECSAM

WRECSAM: Cadeirlan y Santes Fair, Stryd Regent, Wrecsam, LL11 1RB

Nos Iau, 7 Awst 2025, am 6.00pm

Poster Offeren yr Eisteddfod 2025


Amcanion y Cylch

Bod o gymorth i Gatholigion sy’n siarad Cymraeg fyw bywyd ysbrydol cyflawn drwy gyfrwng eu mamiaith, gan gynnig cyfleoedd i addoli yn y Gymraeg, a hyrwyddo’r gwaith o ddarparu Ilyfrau ac adnoddau hanfodol at y diben hwn.

Sicrhau bod hanes cyfoethog y Ffydd Gatholig drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru yn cael ei gadw a’i gyhoeddi i’r cenedlaethau i ddod.

Croeso

Mae’r Cylch Catholig wedi bod mewn bodolaeth ers 1940.

Mae llyfr Ioan Roberts, Gwinllan a Roddwyd, Hanes y Cylch Catholig yn ddarllenadwy iawn, ac yn crynhoi ein hanes ni dros bron iawn i ganrif.

Gwelwch ein hamcanion diweddaraf uchod. Un amcan sydd wedi goroesi’r degawdau yw ein bod ni’n gymdeithas sy’n ceisio fod ‘o gymorth i Gatholigion sy’n siarad Cymraeg fyw bywyd ysbrydol cyflawn drwy gyfrwng eu mamiaith.'

Ar y wefan hon mae ychydig adnoddau ar gael, a gwybodaeth i agor drysau. Rydym yn cyfarfod ar ZOOM y dyddiau hyn, fel y gwelwch. Bydd yr Offeren yn cael ei dathlu yn y Gymraeg ar nifer o ddyddiadau blynyddol, ac yn fisol mewn rhai mannau.

Mae pob gweithred y Cylch yn wirfoddol o dan nawdd Esgobion Cymru.

Mae gennym aelodaeth sy’n cynrychioli pedwar ban y byd. Rydym yn awyddus i roi cefnogaeth i ddysgwyr y Gymraeg.