Y Cylch Catholig
Dan nawdd Esgobion Cymru
Llyfrgell archif postiadau
Cynnwys:
8 Awst 2024 | Offeren yr Eisteddfod 2024, Eglwys Dyfrig Sant, Pontypridd |
8 Awst 2024 | Lluniau Offeren yr Eisteddfod |
8 Awst 2024 | Poster yr Eisteddfod a Llyfryn yr Offeren |
Offeren yr Eisteddfod 2024, Eglwys Dyfrig Sant, Pontypridd
Mae traddodiad o weinyddu Offeren yn yr Eisteddfod Genedlaethol dal yn fyw ar ôl degawdau. Mae gennym ychydig o aelodau sydd yn cofio dod at eu gilydd yn y 1950au.
Eleni, tro Rhondda Cynon Taf oedd i groesawu’r Eisteddfod. Tir cyfoethog ein diwilliant, a man geni nifer of bethau sy’n agos at galon y Cymry, ein hanthem genedlaethol, emynau di ri, a’r Eisteddfod fel yr ydym yn ei hadnabod hi.
Yn Neoniaeth Pontypridd, sy’n cynnwys nifer o eglwysi’r Rhondda, mae eglwys Dyfrig Sant yn Nhrefforest. Dyma ble weinyddwyd Offeren yr Eisteddfod ar nos Iau, 8 Awst. Yr Esgob Emeritws Edwin Regan oedd y llywydd, a’r Parchedig Dad Gildas Parry, O. Praem. oedd y pregethwr. Yn cyd-weinyddu oedd Y Tad Allan Jones, CRIC, Cadeirydd Y Cych Catholig, a’r Parchedig Gareth Leyshon, yr offeiriad plwyf.
Mae’r lluniau isod yn dangos presenoldeb nifer o westeion, yn eu mysg y mae Esgob Llandâf, Y Gwir Barchedig Mary Stallard, Mr John Charles, Dirprwy Raglaw Canol Morgannwg, Agnes Xavier-Phillips, Meistr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, Maer a Maeres Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tydfil - y Cynghorwr John Thomas a Mrs Debbie Thomas.
Mae’r Offeren hon wedi datblygu i fod yn adeg o gydweithrediad eciwmenaidd gyda phresenoldeb nifer fawr o’n ffrindiau o eglwysi eraill. Cafwyd ddarlleniad o lythyr croeso Archesgob Mark ar ddechrau’r Offeren i gydnabyddu’r gwaith pwysig hwn ym mywyd yr Eglwys Gatholig. Roedd yn dda gweld cynifer o swyddogion Cytûn yn bresennol.
Crewyd côr o’r newydd ar gyfer yr Offeren hon o dan waith drwyadl Carys Whelan. Cyfarfod 15 gwaith yn ystod y chew mis diwethaf oedd eu ymrwymiad i wneud cerddoriaeth addas i brydferthu’r litwrgi. Diolch iddynt! Ein gobaith yw ei fod am barhau a chynyddu.
Cafwyd lluniaeth ardderchog ar ôl yr Offeren a chyfle i ni gymdeithasu. Diolch i’r plwyf am eu croeso ac i Madeleine Bidder hefyd am hwyluso’r trefniadau gyda Carys.
Defnyddiwch y ddolen hon i wylio recordiad Offeren yr Eisteddfod:
[YouTube Offeren yr Eisteddfod 8 Awst 2024]
[Yn ôl i'r Cynnwys]
Lluniau Offeren yr Eisteddfod 2024
[Yn ôl i'r Cynnwys]
8 Awst 2024 - Poster yr Eisteddfod a Llyfryn yr Offeren
Mae PDF o'r gwasanaeth ar gael wrth bwyso ar y ddolen
Poster yr Eisteddfod 2024
[Yn ôl i'r Cynnwys]